Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 29 Mehefin 2020
Amser:
10.00 -
11.25
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6389
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Suzy Davies AS Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Nia Moss (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
2.1 SL(5)557 – Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Datgymhwyso Dros Dro Ddeiliadaeth Swydd) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
2.2 SL(5)558 – Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
2.3 SL(5)559 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd y bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i nodi i’r rheol 21 diwrnod gael ei thorri.
3 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
3.1 SL(5)552 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
3.2 SL(5)555 - Rheoliadau'r Cyfrifiad (Cymru) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
3.3 SL(5)556 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
4 Papur(au) i’w nodi:
4.1 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cyfarfod Pedrochrog y Gweinidogion Cyllid
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, a nodwyd iddo gael ei anfon yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol.
4.2 Llythyr gan y Prif Weinidog: Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ddrafft diwygiedig ei adroddiad a chytunodd i gadarnhau'r newidiadau terfynol y tu allan i'r Pwyllgor. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod y Cadeirydd wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer adrodd, oherwydd yr oedi i amserlen seneddol Bil Amgylchedd y DU.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod drafft diwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod y Cadeirydd wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd â Chadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at y Pwyllgor Busnes i ofyn am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer adrodd, oherwydd yr oedi i amserlen seneddol Bil Masnach y DU.
8 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru - canlyniad yr ymgynghoriad
Trafododd y Pwyllgor ganlyniad yr ymarfer ymgynghori, a thrafododd ei flaenraglen waith. Nododd y Pwyllgor y byddai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn dod i’r sesiwn dystiolaeth ar 13 Gorffennaf 2020.